Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024
Pwynt Craffu Technegol 1: Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau bod y wlad “De Affrica” wedi ei chynnwys yn nhestun Cymraeg yr Atodlen 1 newydd yn y cofnod olaf ar gyfer “Pyrus”, yng ngholofn 2.
Pwynt Craffu Technegol 2: Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn diwygio testun Saesneg rheoliad 3 i gynnwys “for inspections” yng nghyfeiriad pennawd Atodlen 1.
Pwynt Craffu Technegol 3: Nodir y pwynt hwn. Byddwn yn sicrhau bod ysgwydd nodyn yr Atodlen 2B newydd hefyd yn cyfeirio at reoliad 3(2)(b) cyn gwneud y Rheoliadau i fynd i’r afael â hyn.
Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn gwneud y Rheoliadau
CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU |
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 |
The Plant Health etc. (Miscellaneous Fees) (Amendment) (Wales) Regulations 2024 |
Yn yr Atodlen 1 newydd yn y cofnod olaf yng ngholofn 2 ar gyfer “Pyrus” bydd y wlad “De Affrica” yn cael ei chynnwys felly bydd y testun yn gorffen “Liechtenstein, De Affrica neu’r Swistir”. |
|
Yn rheoliad 3 diwygir y cyfeiriad at bennawd Atodlen 1 i “(fees for inspections in connection with a plant passport authority)”. |
|
Bydd ysgwydd nodyn yr Atodlen 2B newydd yn cael ei ddiwygio i gyfeirio at “Rheoliad 3(2)(a) a (b)”. |
Bydd ysgwydd nodyn yr Atodlen 2B newydd yn cael ei ddiwygio i gyfeirio at “Regulation 3(2)(a) and (b)”. |